OWAIN GLYNDWR COMMUNICATES

Promoting an interest in the history of Owain Glyndwr, the Welsh Son of Prophecy, his life, times and society and his great Welsh War of Independence;also promoting causes today in Glyndwr's spirit and promoting the flying of the Glyndwr flag on Sept 16 Glyndwr Day.

Wednesday, March 23, 2011

DANGOSWCH EICH TEYRNGARWCH YN GLIR DRWY ORCHUDDIO CYMRU Â BANERI GLYNDŴR: DYMA ALWAD I BOBL GLYNDŴR WRTHSEFYLL YR YMGYRCH DDIDDIWEDD I "WTHIO" BRENHINIAETH LLOEGR AR GYMRU.

An English version of the below can be found on the blog ‘Galwad Glyndŵr'.





YMGYRCH CHWIFIO BANERI GLYNDŴR 2011

Adnewyddir yr ymgyrch, yn rhannol, ar hyn o bryd, fel modd o ddathlu llwyddiant y bleidlais 'ia' am fwy o bwerau i'r Cynulliad Cymreig er, dylem ddim colli golwg ar y ffaith fod yna ffordd hir i fynd eto cyn inni gael Senedd llawn pwerau ac yna annibyniaeth. Tydi'r frwydr ddim yn terfynu gyda chanlyniadau'r 3ydd o Fawrth o bell ffordd, mae’n rhaid cario’n mlaen nes gwelir y dydd pryd fydd y dyheadau hynny a lleiswyd yn Llythyr Pennal, y ddofen mwyaf pwysig yn ein hanes, yn cael eu gwireddu.


Fel modd o wneud y pwynt bod ein hymgyrchu’n parhau hyd nes ceir annibyniaeth ac fel modd o fynegi’n glir ein gwrthwynebiad i’r ffordd mae brenhiniaeth Lloegr yn cael ei “wthio” arnom byth a beunydd yng Nghymru - ac yn arbennig gyda’r briodas diweddara’ ma sydd i gymryd lle ar y 29ain o Ebrill eleni, mae Llysgenhadaeth Glyndŵr am alw ar bob unigolyn yng Nghymru sy’n ystyried eu hunan yn un o 'ddinasyddion Glyndŵr' i fynd ati o ddifrif i godi baner Glyndŵr ym mhob ‘gwagle’ ellir cael hyd iddo drwy’r genedl er mwyn gorchuddio’r môr o faneri ‘jac yr undeb a fydd, o fewn wythnos neu ddwy, yn gormesu tirlun ein cenedl.


Byddai chwifio’r ‘Ddraig Goch’ - baner y Tuduriaid a atgyfodwyd gan Lloyd George ar gyfer Arwisgiad 1911 ddim yn gwneud y tro. Yn y lle cyntaf, byddai’n cael ei gam-ddeall gyda phobl yn meddwl ein bod yn ymuno yn nathliadau’r briodas yng Nghymru - ac wrth gwrs, tyda ni ddim ond hefyd, bydd chwifio baner Glyndŵr yn ddatganiad pendant o’n teyrngarwch a bod y frwydr am annibyniaeth yn parhau.


Felly, mae’r Llysgenhadaeth yn galw am gefnogaeth pob gwladgarwr drwy Gymru benbaladr i lwyr gefnogi’r ymgyrch yma sy’n cychwyn ar Fawrth 31 - Dydd Llythyr Pennal, mewn modd sydd o ddifrif yn weithredol. Os gwneir yr ymdrech a ofynnir amdano gan bob gwladgarwr yng Nghymru, bydd tirwedd ein cenedl yn fôr o felyn a choch 'Pedwar Llew Rampiant’ Owain Glyndŵr erbyn Ebrill 29ain ac yna, gellir gadael y faner i chwifio ar gyfer dathlu penblwydd Tywysog Owain (28 Mai) Dydd dathlu ei goroni a Dydd y Senedd (Mehefin 21) a Dydd Glyndŵr (Medi 16) wrth gwrs. Bydd gofyn trefnu ar gyfer cychwyn yr ymgyrch yma rŵan os ydym i ennill y frwydr yn erbyn yr ‘hysteria jac undebaidd’ ‘ma sydd ar droed!


Cefais fy nigalonni'r noson o’r blaen wrth wylio’r newyddion a gweld Cymry ifanc iawn mewn ysgol meithrin yn cael eu cyflyru a’u hannog i wneud ‘bunting jac yr undeb’ ar gyfer partïon stryd. Dylai rhieni gwlatgar Cymreig holi os yw eu plant nhw yn cael eu hannog i gymryd rhan yn y math hwn o weithgaredd - a chwyno i’r ysgol ac i’r awdurdodau addysg lleol os ydynt. Wrth gwrs, mae’r mwyafrif ohonom yn hoff o bartïon - ac yn enwedig yr hen blant - ond gall rhieni gwlatgarol ddim caniatáu i’w plant fynychu’r partis stryd ‘ma sydd a wnelo ddim a Chymru. Felly, mae’n bwysig bod Bobl Glyndŵr, sydd â phlant, yn ymuno a gwladgarwyr eraill yn eu cymunedau i drefnu gweithgareddau mwy perthnasol fel ‘picnics’ neu farbiciws a phasiantau Glyndŵr ym mharciau Cymru - a gwell fyth os ellir cynnal y gweithgareddau hyn yn un o’r parciau hynny drwy Gymru sydd wedi ei gysegru yn Barc Glyndŵr fel y rhai yn Johnstown yn Wrecsam, a Chaernarfon a Chaerffili er enghraifft.


Mae trefnu picnic neu farbiciw yn ddigon rhwydd ac rwy’n siŵr byddai modd o gael hyd i ‘glerwyr Glyndŵr’ ac artistiaid eraill (cwmnïau pypedau, storïwyr ac ati) a fyddai’n barod i fynychu i gyflwyno adloniant ar gyfer y plant yn rhad ac am ddim?


Yn ogystal, rhwng rŵan a’r 29ain o Ebrill, hwyrach all Pobl Glyndŵr drefnu pasiantau fydd yn addas i gofio am Gatrin Glyndŵr, tywysoges Cymraeg go iawn a gafodd ei charcharu gyda’i phlant yn Nhŵr Llundain am fod yn ferch i Glyndŵr. Trengodd Catrin a’i phlant yn y Tŵr a does neb yn gwybod sut?


Felly, does ddim amser i wastraffu, prysuro’n mlaen sy’n rhaid er mwyn sicrhau nad yw plant Pobl Glyndŵr yn colli allan - a wnânt ddim os defnyddir yr achlysur i ddysgu hanes Glyndŵr iddyn nhw yn hytrach na chaniatáu iddyn nhw gael eu cyflyru a Phrydeindod.


Heb amheuaeth, mi fydd y briodas frenhinol Seisnig yma’n cael ei “gorwneud” drwy Ebrill ac yna drwy Calan Mai - a Ŵyl y Banc. Felly, fel modd o ddihangfa rhag y cyfan, pam ddim mynd a’ch teuluoedd i ymweld â safleoedd Glyndwraidd yn eich cymunedau neu mewn rhannau eraill o Gymru. Rwyf i, fy hunan, am ymweld â safleoedd a chestyll sydd â chysylltiadau Glyndwraidd yng Ngwent gan nad wyf wedi cael fawr o gyfle i ymweld â nhw o’r blaen. Ble bynnag yr ewch, gellir mynd a baner Glyndŵr gyda chi a/neu rhai bach y gellir eu gosod ar ffenestri’ ceir.
Hwyrach bydd y gwladgarwyr mwyaf gwrthryfelgar yn eich mysg am gynnal protest a does ddim lle gwell i wneud hynny ar y 29ain o Ebrill eleni nag o gwmpas y gofeb sydd wedi ei chodi i goffau dewrder Llywelyn ap Gruffydd Fychan yn Llanymddyfri. Mae’n fwriad gan drigolion Llanymddyfri i gynnal parti stryd yn sgwâr marchnad y dref ar y 29ain - yn yr union le lle dienyddiwyd Llywelyn ap Gruffydd Fychan yn y modd mwyaf creulon a ffiaidd posibl. Ac er bod cofeb odidog wedi ei chodi i’n hatgoffa i gyd o’r aberth a wnaed, mae trigolion Llanymddyfri am gael parti yno i ddathlu’r briodas frenhinol Seisnig! Son am ddawnsio ar fedd rhywun - ac nid ‘unrhyw’ rhywun ond arwr gwlatgarol Cymreig dewr o’r radd gyntaf! Bydd gwladgarwyr y Gorllewin am ddatgan eu protest yn erbyn hyn siawns? Os na wneir dim yna mae’n rhaid cydnabod bod yr ysbryd bu mewn gwlatgarwydd Cymreig wedi diflannu i le tywyll iawn!


Yn olaf, hoffwn awgrymu y dylai Cymry Llundain drefnu gweithgaredd ar y 29ain o Ebrill yn Ardd Sant Switan yn Ninas Llundain fel modd o ganolbwyntio meddyliau pobl ar y ffaith mai Catrin oedd ein tywysoges olaf ac nid Diana na kate Middleton. Yn ogystal, gellid gosod torch yn Marble Arch i gofio am Rhys Ddu o Geredigion, un arall o gapteiniaid ac Arwr Glyndŵr a lusgwyd (wrth gael ei wawdio) ar hyd strydoedd Llundain cyn iddo yntau gael ei ddienyddio yn yr un modd creulon a ffiaidd a Llywelyn ap Gruffydd Fychan.


Beth bynnag ydych yn dewis ei wneud neu le bynnag dach chi’n dewis mynd ar y 29ain o Ebrill, cofiwch wneud yr achlysur yn ŴYL BANERI GLYNDŴR. Dewch i ni weld faint o faneri a ellir ei chwifio yng Nghymru mewn protest yn erbyn “wthio’r” briodas frenhinol Seisnig ‘ma arnom. Yna gosodwch eich lluniau ar eich blogiau eich hunain. Lledaenwch y neges fel gwnâi’r ‘Clerwyr Glyndŵr’ gynt. Nhw oedd y ‘tecswyr’ a’r ‘yswytwyr’ yn nyddiau Glyndŵr. Gwnewch yn siŵr fod yr 29ain o Ebrill yn Ddydd Baneri Glyndŵr arbennig dros ben. Dewch i ni weld protest gwlatgarol Pobl Glyndwraidd a fydd yn lledaenu drwy’r genedl gyfan - o’r Gogledd i’r De ac o’r Dwyrain i’r Gorllewin!


Siân